Roeddwn i wedi bod yn ymwybodol ers tro bod yna Gymry ymhlith y Mormoniaid cynnar, ond nes i mi ddarllen Poeri I Lygad Yr Eliffant gan Wil Aaron yn ddiweddar, doeddwn i ddim wedi sylweddoli faint a pha mor flaenllaw oedden nhw. Hanes mudo’r Cymry hyn i’r gorllewin ydi’r llyfr, dros yr Iwerydd yn gyntaf, ac wedyn dros y paith a’r Rockies i Utah gydag ychen a throl, gan nad oedd y rheilffordd yn mynd mor bell â hynny ar y pryd . Yr ail ran o’r daith oedd yr anoddaf, o bell ffordd.
Sefydlwyd yr Eglwys yn 1830, gan Joseph Smith, ar sail cyfres o straeon rhyfedd, ffrwyth ei ddychymyg, yn cynnwys angylion, platiau euraid, a’r syniad gwirioneddol ddoniol bod Iesu Grist wedi teithio i Ogledd America ar ôl atgyfodi. Teg honni mai Mormoniaeth yw’r mwyaf Americanaidd o grefyddau’r byd (gan ddibynnu i raddau ydych chi’n fodlon ystyried seientoleg yn grefydd ai peidio). Ffrwyth dychymyg pobl ryfedd ydi sail pob crefydd, wrth gwrs; dim ond y ffaith bod Mormoniaeth yn ffydd gymharol ddiweddar sy’n peri iddi swnio gymaint yn wirionach, i bobl gyffredin o’r tu allan i’r ffydd, na Christnogaeth draddodiadol.
Yr hyn sy’n rhyfeddol ydi bod cenhadon Mormonaidd wedi ymledu i bedwar ban byd mor gyflym yn y blynyddoedd yn syth ar ôl sefydlu’r Eglwys, gan gynnwys i Gymru. Doedd gen i ddim syniad bod Brigham Young ei hun wedi ymweld â Sir y Fflint yn yr 1840au cynnar, i genhadu a phregethu. Ffaith arall o’r llyfr â’m lloriodd oedd bod y llyfr cyntaf erioed a ysgrifenwyd am hanes Mormoniaeth wedi cael ei gyhoeddi yn uniaith Gymraeg, a hefyd bod Mormoniaid wedi cyhoeddi cylchgrawn misol uniaith Gymraeg (y cyfnodolyn Mormonaidd cyntaf erioed mewn iaith heblaw Saesneg).
Mae’n drawiadol bod y cynnwrf hwn yng Nghymru yn ystod y 1840au wedi treiddio i bob cornel o’r wlad. Nid ffenomen yn perthyn i ardal benodol yn unig oedd hon. O nunlle braidd, ymddangosodd Mormoniaid ymhob man, gan hollti barn yn ffyrnig. Enillwyd dilynwyr ym mhob rhan o Gymru, ond fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, roedd y rhan fwyaf yn ddrwgdybus a dweud y lleiaf. Mae’n debyg mai’r sibrydion bod arweinwyr yr Eglwys yn arddel amlwreiciaeth (polygamy) oedd un o’r rhesymau pennaf am hynny, ac wrth gwrs cafwyd cadarnhad o wirionedd yr honiadau hynny maes o law. Yr un oedd sail y ddrwgdybiaeth tuag atynt yn America ei hun hefyd.
Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod cynifer o lythyrau a dyddiaduron y Mormoniaid cynnar hyn, yn disgrifio’u taith a’u bywyd newydd wedyn yn Utah, wedi cael eu hysgrifennu yn Gymraeg. Yn wir, roedd llawer iawn o’r rhai a ddaeth o Gymru yn uniaith Gymraeg, ac fe fethodd nifer ohonynt ddysgu Saesneg hyd yn oed ar ôl ymsefydlu yn eu cartref newydd. Diddorol iawn oedd dod i ddeall bod amgueddfeydd ac archifdai Dinas y Llyn Halen yn cynnwys cynifer o lythyrau a dyddiaduron Cymraeg. Os oes gen i gŵyn, mae arfer yr awdur o gyfieithu’r holl ddyfyniadau i’r Gymraeg yn golygu nad yw bob tro'n eglur ym mha iaith roedd y testun wedi cael ei gofnodi yn wreiddiol; fel Cymro busneslyd, roeddwn i’n ysu i gael gwybod y math yna o beth. Beth bynnag, mae’r disgrifiadau a geir yn y papurau hyn o’r daith dros y Rockies, ymhell cyn bod lôn na thrên na thelegraff, yn frawychus ar adegau. Gwallgof i ni heddiw ydi’r syniad bod rhaid gadael Iowa erbyn dechrau mis Gorffennaf fan hwyraf er mwyn bod yn saff o groesi’r Rockies cyn i’r gaeaf daro. Collodd nifer fawr eu bywydau, trwy ddamweiniau neu salwch.
Nid y Mormoniaid yn unig oedd wrthi, wrth reswm. Dyma gyfnod y Gorllewin Gwyllt, a’r rhuthr i Galiffornia i chwilio am aur. Ac, wrth gwrs, nid symud i diroedd hollol wag oedden nhw. Mae’n amhosibl gwahanu stori’r Mormoniaid oddi wrth y broses ehangach o wladychu gorllewin y cyfandir, a’r holl erchyllterau oedd ynghlwm â hynny. Mae’n siwr mai cymlethdodau fel hyn sy’n gwneud y stori mor ddifyr. Roedd y daith yn wirioneddol anodd, ac mae’n rhaid edmygu gwytnwch a dyfeisgarwch cynifer ohonynt. Ond eto roeddent yn ffanaticiaid crefyddol rhyfedd dros ben, yn ymgymryd â’r fenter yn y lle cyntaf oherwydd eu bod, ie, yn gobeithio am fywyd gwell, ond hefyd gan eu bod wedi’u swyno gan straeon hollol ddwl.